Skip to main content

This job has expired

Comisiynwyr Traffig

Employer
Department for Transport
Location
Cardiff/Caernarfon/Golborne
Salary
£101,287 per annum
Closing date
27 Aug 2019

View more

Practice area
Transport, travel and tourism
Contract type
Permanent
Hours
Full time
PQE
7 years+
Position
Solicitor
Sector
In-house

Job Details

Penodi Comisiynydd Traffig Cymru a Chomisiynydd Traffig Gogledd-orllewin Lloegr

 

Lleoliad: 1 yn Ardal Traffig y Gogledd-orllewin – Golbourne, ger Warrington

1 yng Nghymru - Caerdydd neu Gaernarfon

 

Dyddiad cychwyn: Hydref 2019

 

Hyd y penodiad: Parhaol

 

Cyfnod amser: 42 awr (dros wythnos 5 diwrnod) gan gynnwys awr y dydd ar gyfer prydau

 

Tâl cydnabyddiaeth: £101,287 y flwyddyn (Mae cyflogau Comisiynwyr Traffig ynghlwm wrth bolisi cyflogau’r sector cyhoeddus ar gyfer y farnwriaeth).

 

Costau: Byddwn yn ad-dalu costau rhesymol fydd yn codi wrth gyflawni dyletswyddau. Bydd yr union fanylion yn cael eu rhoi yn y telerau a'r amodau. Ni fyddwn yn talu costau adleoli.

 

Meini Prawf Hanfodol ar gyfer y swydd yng Nghymru yn unig: Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddwn yn ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt eisoes yn meddu ar y sgiliau hyn ond sy’n barod i ymrwymo i ddysgu’r Gymraeg. Dylai’r ymgeiswyr fod yn gyfreithwyr neu’n fargyfreithwyr.

 

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn dymuno penodi dau Gomisiynydd Traffig. Un ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr lle bydd yr ymgeisydd yn gweithio yn Golborne ger Warrington a’r llall ar gyfer Cymru lle y bydd yn gweithio yng Nghaerdydd neu Gaernarfon. Efallai y bydd gofyn i’r ddau Gomisiynydd deithio i rannau eraill o’r rhanbarth ac ar draws Prydain.

 

Y Comisiynwyr Traffig sy’n gyfrifol am drwyddedu a rheoleiddio’r rheiny sy’n gyrru cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsis, a chofrestru gwasanaethau bysiau lleol. Gall Comisiynwyr Traffig Prydain Fawr wrando ar achosion yn enwedig apeliadau a chwynion o feysydd traffig eraill sy'n cael eu dirprwyo gan yr Uwch-gomisiynydd Traffig, ac felly gall gynnal y dyletswyddau mewn unrhyw fan ym Mhrydain. Fe’u cynorthwyir yn y gwaith hwn gan ddirprwy Gomisiynwyr Traffig, sy’n llywyddu dros nifer o ymchwiliadau cyhoeddus ac sy’n delio ag achosion ysgrifenedig. Mae gwaith fel Comisiynydd neu Ddirprwy yn cael ei gydnabod gan y Comisiwn Penodiadau Barnwrol fel gwaith sy'n cyfateb i brofiad mewn tribiwnlys.

 

Ar hyn o bryd, caiff Comisiynwyr Traffig eu penodi hyd at 65 mlwydd oed a gall y penodiadau gael eu hestyn am gyfnod hyd nes y byddant yn 66 oed, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

 

 

Bydd rhagor o wybodaeth am y penodiadau hyn, gan gynnwys sut i wneud cais, cyfrifoldebau'r swydd a'r manyleb person, i'w cael drwy gysylltu â'r Adran Drafnidiaeth: Paul.wainwright@dft.gov.uk.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 27 Awst 2019.

Company

The skills we value

You’ll find specific descriptions in the advertisements we post for jobs but the essential skills you will need are:

  • being able to work in a team - we don’t run transport services directly ourselves, we work with our delivery partners like train and bus companies, local authorities etc
  • self-motivation
  • excellent communication skills, so we can negotiate with, and influence, our partners effectively

We also value people who can demonstrate excellent leadership and management skills.

Above all we are looking for people who are enthusiastic and motivated about improving transport.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert